Ryan Giggs - swydd dros dro?
Y Cymro Ryan Giggs yw un o’r ffefrynnau i gymryd un o’r swyddi mwya’ ym mhêl-droed y byd, yn rheolwr ar Manchester United.
Mae’r papurau newydd heddiw’n llawn dyfalu bod y clwb ar fin rhoi’r sac i’w rheolwr presennol, David Moyes.
Yn ôl rhai adroddiadau, mae hynny eisoes wedi digwydd ac mae’r clwb wedi gwrthod rhoi sicrwydd tymor hir i’r Albanwr sydd wedi bod yn Old Trafford ers llai na blwyddyn.
Y disgwyl yw y byddai Ryan Giggs yn cymryd y swydd tros dro tan ddiwedd y tymor ond mae hefyd ymhlith y ffefrynnau i gymryd y swydd barhaol.
Hyfforddi
Ers cilio rhywfaint o’r maes chwarae ei hun, mae’r Cymro wedi bod yn gwneud ei gyrsiau hyfforddi ac eisoes yn un o staff hyfforddi’r clwb lle bu’n chwarae ar hyd ei yrfa.
Does dim cyhoeddiad wedi dod hyd yn hyn am ddyfodol David Moyes, ond mae llefarwyr yn Old Trafford wedi gwrthod dweud bod ei swydd yn saff.
Mae’r clwb yn cael eu tymor gwaetha’ ers blynyddoedd maith ac, yn ôl y sylwebyddion, roedd colli ddoe i hen glwb Moyes, Everton, yn golygu bod perchnogion y clwb wedi cael llond bol.