Casnewydd 1–1 Burton

Cafodd Casnewydd gêm gyfartal yn erbyn Burton ar Rodney Parade brynhawn Llun.

Rhoddodd Andy Sandell y tîm cartref ar y blaen yn gynnar ond unionodd Michael Symes o’r smotyn cyn yr egwyl ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd.

Pum munud yn unig oedd wedi mynd pan rwydodd Sandell gydag ergyd dda o ochr y cwrt cosbi yn dilyn gwaith creu Chris Zebroski.

Felly yr arhosodd hi tan ddeg munud cyn yr egwyl pan ildiodd Darcy Blake gic o’r smotyn am drosedd ar Dominic Knowles. Cymerodd Symes y gic gan guro Lenny Pidgeley o ddeuddeg llath.

Di sgôr oedd yr ail hanner wedi hynny ac mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn bymthegfed yn nhabl yr Ail Adran.

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Jackson, Willmott, Porter, Blake, Sandell, Jolley (Chapman 64′), Minshull (Jeffers 76′), Feely, Flynn (O’Connor 57′), Zebroski

Gôl: Sandell 5’

Cerdyn Melyn: Sandell 90’

.

Burton

Tîm: Lyness, Gray, McFadzean, Bell, Sharps, Holness, Hemmings (MacDonald 61′), Palmer, Symes (Kee 78′), Knowles (Harness 72′), Phillips

Gôl: Symes [c.o.s.] 36’

Cardiau Melyn: Gray 18’, McDonald 75’

.

Torf: 2,630