Wrecsam 0–1 Lincoln
Colli gartref fu hanes Wrecsam brynhawn Llun wrth i Lincoln ymweld â’r Cae Ras yn Uwch Gynghrair Skrill.
Sgoriodd Danny Rowe unig gôl y gêm o’r smotyn i’r ymwelwyr wedi hanner awr wrth i dymor siomedig y Dreigiau barhau.
Jay Harris ildiodd y gic am drosedd ar Jon Nolan ac roedd gôl Rowe o ddeuddeg llath yn ddigon i gipio’r pwyntiau i gyd.
Mae’r canlyniad yn rhoi Wrecsam yn bymthegfed yn y tabl gyda dim ond un gêm ar ôl.
.
Wrecsam
Tîm: Mayebi, Carrington, Ashton, Clarke (Keates 58′), Artell, Tomassen, Bailey-Jones, Harris, Anyinsah, Bishop (Williams 61′), Hunt
Cerdyn Melyn: Tomassen 43’
.
Lincoln
Tîm: Townsend, Miller, Newton, Nolan, Brown, Audel, Sheridan, Mendy, Tomlinson (Arthur 78′), Rowe (Robinson 82′), Bright (Power 58′)
Gôl: Rowe 31’
Cerdyn Melyn: Power 70’
.
Torf: 2,714