Tour de France 2012
Mae trefnwyr ras feicio y Tour de France, sy’n cychwyn yn Swydd Efrog ym mis Gorffennaf, wedi gwadu eu bod wedi gwahardd gwirfoddolwyr rhag defnyddio rhai geiriau tafodieithol.

Mae miloedd o “Tour Makers” wedi cael eu recriwtio i wirfoddoli pan fydd hyd at dair miliwn o bobl yn heidio i Swydd Efrog i wylio dau gymal o’r ras feicio fyd enwog ar 5 a 6 Gorffennaf.

Roedd y gwirfoddolwyr wedi cael fideo hyfforddi oedd yn eu cynghori i beidio defnyddio geiriau fel ‘mate, ‘love’ a ‘darling’ – geiriau sy’n cael eu defnyddio mewn cyd-destun cyfeillgar yn y sir.

Yn ôl y fideo roedd rhai geiriau “yn gallu swnio’n gyfeillgar i chi, ond fe all rhain ddigio rhai pobl.”

Asiant Deithio ‘Welcome to Yorkshire’ sydd wedi trefnu i’r ras gychwyn yn Leeds a theithio oddi yno i Lundain.

Dywedodd llefarydd eu bod am wneud popeth i warchod hunaniaeth Swydd Efrog.

“Bydd Grand Depart y Tour de France yn dathlu popeth am Swydd Efrog gan gynnwys y dafodiaith ond rhaid i ni fod yn ofalus na fyddwn ni’n drysu ein hymwelwyr o dramor,“ meddai.

Roedd nifer o’r gwirfoddolwyr beth bynnag wedi cwyno am y fideo.