Dreigiau Casnewydd Gwent 10–20 Gweilch
Y Gweilch aeth â hi yn erbyn y Dreigiau yn ail gêm ‘Dydd y Farn’ yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sul.
Roedd hi’n gyfartal ar yr egwyl ond llwyddodd y Gweilch i wneud digon i’w hennill hi yn yr ail hanner, ond go brin y bydd pedwar pwynt yn ddigon i sicrhau lle iddynt ym mhedwar uchaf y RaboDirect Pro12 ar ddiwedd y tymor.
Hanner Cyntaf
Er i’r Gweilch lwyr reoli’r deugain munud agoriadol fe lwyddodd y Dreigiau i gadw pethau’n ddi sgôr tan yr egwyl.
Roedd y Gweilch yn arbennig o dda yn y munudau agoriadol a daeth Richard Fussell a Dan Baker yn agos iawn at sgorio.
Ond er gwaethaf eu goruchafiaeth bu bron i’r Gweilch ildio ym munudau olaf yr hanner wedi Ryan Jones gael ei anfon i’r gell gosb am ladd y bêl yn ardal y dacl.
Ail Hanner
Ar ôl amddiffyn am rannau helaeth o’r hanner cyntaf fe gafodd y Dreigiau fwy o’r tir a’r meddiant yn yr ail gyfnod ac fe wnaethant y gorau ohono wedi dim ond chwe munud pan groesodd Richie Rees am bwyntiau cyntaf y gêm wedi symudiad da, 7-0 yn dilyn trosiad Kris Burton.
Anfonwyd blaenasgellwr y Dreigiau a seren y gêm, Nic Cudd, i’r gell gosb yn fuan wedyn ac fe dalodd ei dîm y pwyth wrth ildio deg pwynt mewn deg munud.
Trosodd Biggar gic gosb i ddechrau cyn i Tom Habberfield blymio drosodd o fôn ryc am gais, 7-10 wedi trosiad Biggar.
Cyfle’r Gweilch i fynd i lawr i bedwar dyn ar ddeg oedd hi eto wedi hynny pan welodd Jonathan Spratt felyn am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol, ac fe lwyddodd Tom Prydie i unioni pethau gyda’r gic gosb ganlynol.
Deg munud oedd ar ôl pan giciodd Biggar y Gweilch yn ôl ar y blaen ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ddau funud o’r diwedd pan redodd Nigel Owens o dan y pyst i ddynodi cais cosb, 10-20 y sgôr terfynol o blaid y Gweilch.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch yn bumed a’r Dreigiau yn ddegfed yn nhabl y Pro12. Mae’r Gweilch bedwar pwynt y tu ôl i Glasgow yn y pedwerydd safle ac mae gan yr Albanwyr un gêm yn fwy ar ôl.
.
Dreigiau
Cais: Richie Rees 46’
Trosiad: Kris Burton 47’
Cic Gosb: Tom Prydie 64’
Cardiau Melyn: Nic Cudd 52’, Tyler Morgan 76’
.
Gweilch
Ceisiau: Tom Habberfield 61’, Cais Cosb 78’
Trosiadau: Dan Biggar 63’, 79’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 53’, 70’
Cardiau Melyn: Ryan Jones 33’ Jonathan Spratt 64’