Gleision Caerdydd 17–13 Scarlets

Mae gobeithion main y Gleision o orffen yn chwech uchaf y RaboDirect Pro12 yn fyw o hyd wedi iddynt drechu’r Scarlets yng ngêm gyntaf ‘Dydd y Farn’ yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sul.

Roedd hi’n gêm agos ac yn gêm danllyd gyda dau gerdyn coch ond roedd y Gleision yn llawn haeddu ennill yn y diwedd.

Hanner Cyntaf

Y Gleision a ddechreuodd orau ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda chais Alex Cuthbert wedi pedwar munud. Cafodd yr asgellwr ei hun yng nghanol y blaenwyr cyn hyrddio drosodd o un medr am gais annodweddiadol.

Methodd Gareth Davies y trosiad ond llwyddodd gyda dwy gic gosb wrth i’r Gleision barhau i reoli’r gêm yn y chwarter cyntaf.

Hwy oedd y tîm gorau yn yr ail chwarter hefyd ond fe lwyddodd y Scarlets i gau’r bwlch gyda chais i Rhys Priestland saith munud cyn yr egwyl. Cafodd cic Dan Fish ei tharo i lawr gan George Earle a’i chasglu gan Jake Ball cyn i Priestland dderbyn pas y clo a chroesi o dan y pyst.

Byddai’r trosiad wedi dod â’r Scarlets o fewn pedwar pwynt ond methodd Priestland y cyfle gwirioneddol hawdd.

Cyfnewidiodd Davies a Priestland gic gosb yr un ym munudau olaf yr hanner, 14-8 y sgôr o blaid y Gleision ar yr egwyl.

Ail Hanner

Dechreuodd y Scarlets yr ail hanner yn addawol ond methodd Priestland gyfle i gau’r bwlch pan fethodd gic arall.

Yn wir, ni chafwyd unrhyw bwyntiau yn hanner cyntaf yr ail hanner, ond nid oedd prinder cyffro serch hynny wrth i’r dyfarnwr, Ian Davies, anfon dau chwaraewr oddi ar y cae.

Gwelodd Liam Williams ail felyn am ladd y bêl yn sinigaidd a derbyniodd wythwr y Gleision, Robin Copeland, gerdyn coch am ddial gyda throed ar ben cefnwr y Scarlets.

Cafodd Davies gyfle hawdd i roi dwy sgôr rhwng y ddau dîm toc wedi’r awr ond methodd yntau gic o flaen y pyst, bron yr un mor hawdd â chyfle Priestland yn yr hanner cyntaf.

Cafwyd diweddglo diddorol diolch i gais hwyr Ken Owens yn dilyn sgarmes symudol o lein bump ond roedd gan y Gleision bwynt o fantais o hyd wedi i Steven Shingler fethu’r trosiad.

Ymestynnodd Davies y bwlch i bedwar pwynt gyda chic gosb arall a daliodd amddiffyn y Gleision yn ddewr yn y munudau olaf i sicrhau buddugoliaeth haeddianol.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Gleision i’r seithfed safle yn nhabl y Pro12 ond mae pwynt bonws y Scarlets yn cadw naw pwynt rhwng y ddau dîm gyda dim ond dwy gêm i fynd.

.

Gleision

Cais: Alex Cuthbert 4’

Ciciau Cosb: Gareth Davies 10’, 16’, 36’, 76’

Cerdyn Coch: Robin Copeland 55’

.

Scarlets

Ceisiau: Rhys Priestland 33’, Ken Owens 71’

Cic Gosb: Rhys Priestland 40’

Cardiau Melyn: Liam Williams 6’, 55’

Cerdyn Coch: Liam Williams 55’