Vladimir Putin (Llun PA)
Fe fydd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn arwyddo cytundeb masnach gyda’r Wcráin heddiw.
Mae’r cytundeb, a gafodd ei drefnu neithiwr, wedi cael ei gynllunio i roi cefnogaeth i’r wlad yn sgil gweithred Rwsia yn meddiannu talaith y Crimea.
Fe wnaeth arweinwyr yr Undeb, gan gynnwys David Cameron, hefyd gytuno i ychwanegu 12 o enwau at y rhestr o uwch swyddogion Rwsia sy’n wynebu sancsiynau.
Mae’r rheiny’n cynnwys gwaharddiadau teithio a rhewi asedau ariannol.
Maen nhw’n cynnwys gŵyr busnes cyfoethog, yr “oligarchiaid”, sydd wedi rhoi cefnogaeth ariannol i’r Arlywydd Vladimir Putin.