Boris Johnson
Fe fyddai David Cameron yn hoffi gweld Maer Llundain, Boris Johnson, yn གྷl yn Nhŷ’r Cyffredin.

Hynny er gwaetha’ amheuon mai nod Johnson yn y pen draw yw disodli Cameron yn arweinydd ar y Blaid Geidwadol, ac yn rhif 10 Downing Stret.

Wrth roi cyfweliad i bapur y Sun ar gyfer Sport Relief, fe ddywedodd Prif Weinidog Prydain y byddai’n hoffi gweld Boris Johnson yn sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesa’.

“Mae ychydig fel pêl-droed,” meddai. “Os oes gyda chi ymosodwr gwych, rydych chi eisiau iddo fod ar y cae.”

Er hynny, roedd yn pwysleisio mai dewis Boris Johnson fyddai hynny ac fe allai hefyd aros tan ddiwedd ei dymor yn Faer Llundain.

Yn ôl David Cameron, doedd dim byd o’i le ar rywun arall yn gobeithio bod yn Brif Weinidog.