Y ffatri ddillad ar ol i'r adeilad ddymchwel ym Mangladesh
Fe fydd cwmni Primark yn gorfod talu £5.4 miliwn o iawndal i’r rhai a ddioddefodd ar ôl i ffatri ddillad ddymchwel ym Mangladesh y llynedd gan ladd 1,100 o bobl.
Fe fydd y cwmni dillad yn gwneud taliadau i 580 o weithwyr neu eu teuluoedd a fu farw neu a gafodd eu hanafu yn ffatri Rana Plaza. Roedd y gweithwyr yn gweithio i New Wave Bottoms a oedd yn cyflenwi’r dillad i Primark.
Roedd gan y cwmni ffatri ar ail lawr yr adeilad wyth llawr.
Fe fydd Primark, sy’n rhan o gwmni Associated British Foods, hefyd yn gwneud taliad o £602,000 i ymddiriedolaeth sydd wedi cael ei sefydlu ar gyfer y gweithwyr. Mae hynny’n ychwanegol i’r £1.2 miliwn mae Primark eisoes wedi ei roi i’r gweithwyr a’u teuluoedd.
Serch hynny, 11 mis ers i’r adeilad ddymchwel, mae’r gronfa ymhell o gyrraedd ei tharged o £24.1 miliwn. Mae’r gronfa’n cael ei chydlynu gan asiantaeth o’r Cenhedloedd Unedig.
Roedd trychineb y Rana Plaza wedi cynyddu’r galw am wella safonau diogelwch mewn ffatrïoedd sy’n cyflenwi nwyddau i gwmnïau mawr yn y Gorllewin.