Mae gweinidogion wedi cael eu beirniadu am werthu cronfa ddata, sy’n cynnwys manylion am filiynau o gyfeiriadau, er mwyn codi pris cyfrannau’r Post Brenhinol.

Mewn adroddiad, dywedodd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus fod y Ffeil Cyfeiriadau Post (PAF) yn “ased cenedlaethol” a’i bod hi’n “annerbyniol” i’w werthu wrth breifateiddio’r gwasanaeth Post.

Ychwanegodd fod y PAF o fudd mawr i’r economi a bod gwerthu’r ffeil y llynedd yn fodd o wneud “elw yn y tymor byr”.

Mae’r ffeil yn cynnwys pob pwynt dosbarthu ym Mhrydain – sy’n 1.8 miliwn cod post a 28 miliwn o gyfeiriadau.

‘Camgymeriad’

Mae Adran Busnes, Arloesiad a Sgiliau Llywodraeth Prydain wedi amddiffyn y dewis i werthu’r PAF.

“Cafodd y ffeil ei gynnwys yng ngwerthiant y Post Brenhinol am ei fod yn rhan annatod o’r gwaith, ac nid er mwyn codi’r pris,” meddai llefarydd.

Ond yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Bernard Jenkin, roedd gwerthu’r PAF “yn gamgymeriad”:

“Ni ddylid gwerthu hawl y cyhoedd i gael gweld data o’r sector cyhoeddus fyth eto”, meddai.

Dywedodd adroddiad y Pwyllgor fod casglu’r data wedi bod yn broses ddrud a bod ei werthu am gael effaith ar dwf yr economi:

“Dylid bod wedi cadw’r PAF fel data cyhoeddus sydd ar gael i bawb – er budd y cyhoedd ac er budd economi Prydain.

“Bydd cael gwared a hyn yn amharu ar dwf yr economi, sy’n rhywbeth annerbyniol a diangen o ganlyniad i breifateiddio.”

Cafodd cyfrannau’r Post Brenhinol – gwerth hyd at £3.3 biliwn – eu rhoi ar werth ym mis Hydref y llynedd, gyda’r Llywodraeth yn rhoi 10% o’r cyfrannau i 150,000 o weithwyr y Post Brenhinol.