Mae senedd y Crimea wedi cyhoeddi bod y rhanbarth yn annibynnol ar ôl i’r trigolion bleidleisio o blaid ymuno a Rwsia.
Roedd 96% o drigolion y Crimea wedi pleidleisio o blaid torri’n rhydd o’r Wcráin mewn refferendwm ddydd Sul.
Ond nid yw gwledydd y Gorllewin yn cydnabod y refferendwm ac mae’r Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd yn paratoi sancsiynau yn erbyn Rwsia. Cafodd milwyr Rwsia eu hanfon i’r Crimea rhai wythnosau’n ôl.
Mae gwleidyddion yn y Crimea wedi gofyn i’r Cenhedloedd Unedig a chenhedloedd eraill i gydnabod y bleidlais.
Mae disgwyl i ddirprwyaeth o’r Crimea deithio i Moscow yn ddiweddarach i gynnal trafodaethau ynglŷn â’r camau nesaf.
Mae disgwyl i’r ddwy Senedd gyfarfod yn y Kremlin yfory i glywed araith Arlywydd Rwsia Vladimir Putin ynglyn a’r mater.
Mae Ysgrifennydd Tramor Prydain William Hague wedi rhybuddio y dylai Moscow wynebu “cosbau economaidd a gwleidyddol” am ei ymyrraeth yn y refferendwm.
Mae gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd yn cwrdd ym Mrwsel ar hyn o bryd i ystyried camau pellach gan gynnwys cyflwyno gwaharddiad ar fisas a rhewi asedau.