Trefynwy
Trefynwy yw’r trydydd lle mwyaf dymunol i fyw yn y DU yn ôl rhestr o 101 o’r llefydd gorau a gyhoeddwyd ym mhapur newydd y Sunday Times ddoe.
Tref Skipton yng ngogledd Swydd Efrog ddaeth i’r brig gan gipio’r teitl o flaen Newnham yng Nghaergrawnt, Trefynwy yn Sir Fynwy a Falmouth yng Nghernyw.
Dywedodd y beirniaid bod Skipton yn haeddu’r wobr oherwydd cyfraddau troseddu isel, ysgolion o’r radd flaenaf, cysylltiadau trafnidiaeth dda, stryd fawr gyda nifer fawr o siopau annibynnol, pris eiddo rhesymol a chefn gwlad hardd o amgylch y dref.
Cafodd Trefynwy ei ddisgrifio fel tref farchnad ddymunol a deniadol gyda chysylltiadau trafnidiaeth dda ac ysgolion da iawn.
Cafodd 11 o lefydd yng Nghymru ei henwi yn y rhestr. Roedd llefydd eraill yng Nghymru’n cynnwys:
Y Fenni, Sir Fynwy
Abersoch, Gwynedd
Aberhonddu, Powys
Aberteifi, Ceredigion
Y Bont-faen, Bro Morgannwg
Penarlâg, Sir y Fflint
Talacharn, Sir Gaerfyrddin
Rhosili, Y Gwŷr
Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
Dywedodd golygydd atodiad cartref y Sunday Times, Helen Davies: “Mae’r rhestr yn dangos faint o leoedd gwych sydd ar gael i fyw ar draws y DU.
“Skipton oedd yr enillydd teilwng eleni ond mae pob lle ar y rhestr yn haeddu ei le.”
Rhanbarthau de orllewin Lloegr a Swydd Efrog a’r gogledd ddwyrain oedd gyda’ r nifer uchaf o leoliadau dymunol i fyw ynddyn nhw yn y 101 uchaf gydag 15 lle’r un ar y rhestr.
Dywedodd y Cynghorydd Syr Bob Greenland, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy sy’n gyfrifol am Arloesi, Menter a Hamdden: “Mae’n newyddion gwych ond ni fydd yn syndod i drigolion Trefynwy fod y dref yn y pedwar lle gorau i fyw yn y DU.
“Mae’n braf gweld bod Y Fenni hefyd wedi cael ei chydnabod fel un o’r llefydd mwyaf dymunol i fyw tra mai Sir Fynwy yw’r un sir yng Nghymru sydd gyda mwy na un dref ar y rhestr.”