Mark Polin
Bydd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Mark Polin, yn aros yn ei swydd am dair blynedd arall.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Winston Roddick i ymestyn ei gytundeb.

Mae gan y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd bŵer statudol i benodi’r Prif Gwnstabl ar gyfer ardal eu heddlu nhw.  Ar ôl tymor cychwynnol o hyd at 5 mlynedd, gall contractau Prif Gwnstabliaid gael eu hadnewyddu am hyd at 3 blynedd arall, a bob blwyddyn ar ôl hynny.

‘Heriau’

Meddai Mark Polin: “Yn ystod fy amser fel Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, mae’r Heddlu wedi gorfod wynebu newidiadau mawr ac ymateb i nifer o heriau; rhai gweithredol a rhai o ganlyniad i’r angen i wneud arbedion sylweddol.

“Rydym wedi canolbwyntio ar gynnal a gwella’r gwasanaethau a ddarperir, er gwaetha’r heriau hynny, ac rydym wedi cyflawni hyn mewn sawl ffordd wahanol.

“Rwy’n falch o allu arwain sefydliad o swyddogion heddlu a staff sydd wedi gwneud hyn yn bosib ac sy’n parhau i roi o’u gorau, ac rwy’n falch o gael y cyfle i barhau â’r gwaith hwn.”

Cefndir
Mae Mark Polin wedi gweithio gyda heddluoedd Dinas Llundain a Gwent a symudodd i Ogledd Cymru ar ôl ymgymryd â rôl Dirprwy Brif Gwnstabl yn Swydd Gaerloyw.

Mae’n Gadeirydd CPSH Cymru, cyfarfod rhanbarthol Gogledd Orllewin CPSH a Chadeirydd Cymdeithas Staff Prif Swyddogion Heddlu, sy’n cynrychioli buddion prif swyddogion yn genedlaethol.

Bu iddo lwyddo yn ei arholiad Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg sydd gyfwerth â TGAU ail Iaith ym mis Awst y llynedd.