Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi beth fydd cylch gwaith astudiaeth annibynnol i ofal iechyd yng nghanolbarth Cymru.

Mae’r cylch gwaith wedi cael ei benderfynu yn dilyn trafodaeth gyda phobl leol, clinigwyr a chynrychiolwyr cymunedol.

Bydd yr astudiaeth yn edrych ar y problemau ac atebion posibl sy’n codi o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd diogel a chynaliadwy o ansawdd uchel, sy’n addas i’r rheini sy’n byw yn y canolbarth – ardal sy’n wledig a diarffordd gan fwyaf.

Bydd hyn yn cynnwys y ffordd orau o ddatblygu modelau darparu gwasanaethau ar draws gofal sylfaenol a chymunedol, y gofal a ddarperir yn Ysbyty Bronglais, a gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae disgwyl i’r astudiaeth gael ei gwblhau erbyn mis Medi eleni.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, y byddai’r astudiaeth yn “ymdrin â nifer o feysydd”, gan gynnwys anghenion iechyd, disgwyliadau’r cyhoedd, modelau gweithlu, modelau trefniadaeth gwasanaethau, cyllid a chynaliadwyedd, cymhwyso modelau newydd ac integreiddio gwasanaethau.

Ychwanegodd Mark Drakeford: “Y disgwyl yw cwblhau’r astudiaeth ym mis Medi, ac yna rhoi ystyriaeth ofalus ac agored iddi.

“Bydd disgwyl i’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans sy’n gyfrifol am y Canolbarth ystyried yr adroddiad yn eu cynlluniau.”