Wrth i luoedd Prydain ddechrau gadael Afghanistan, mae arweinydd y milwyr Prydeinig yn y wlad, y Brigadydd James Woodham, wedi dweud mai hanes fydd yn barnu “llwyddiant” ymgyrch y DU yno.
Roedd yn siarad wedi i filwyr Prydeinig adael pob un namyn un o’u canolfannau milwrol yn nhalaith Helmand.
Er bod un safle yn parhau i fod ar agor, y tu allan i Camp Bastion, bydd holl filwyr Prydain yn gadael y wlad erbyn diwedd y flwyddyn.
Mewn ymgyrch sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers mwy na mis, mae tri safle pwysig arall unai wedi cau neu wedi cael eu trosglwyddo i reolaeth lluoedd y wlad.
Yn ystod anterth yr ymgyrch, roedd gan y lluoedd Prydeinig 137 o safleoedd tebyg. Erbyn hyn, lluoedd Afghanistan sy’n arwain 97% o’r ymgyrchoedd diogelwch yn y wlad.
Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond, y bydd y DU yn cefnogi pobl Afghanistan ymhell wedi i’r milwyr adael y wlad.