Mae diffoddwyr tân wrthi’n ceisio rheoli tân mawr ar fferm ym Mhentyrch ger Caerdydd, gyda’r mwg trwchus i’w weld o’r ardaloedd cyfagos.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, dechreuodd y tân am 8:41 y bore ’ma ac mae wedi lledaenu i fwy nag un adeilad ar y fferm.

Mae dwi injan dan o’r Eglwys Newydd a Threlái a dau beiriant dŵr ar y safle ar hyn o bryd.

Dywedodd un llygad dyst fod mwg o’r tân i’w weld ar yr M4 ger cyffordd 32.