Mae Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd wedi rhybuddio aelodau’r cyhoedd ar draws y sir i fod yn wyliadwrus o werthwyr pysgod sy’n mynd o ddrws i ddrws yn ceisio gwerthu gwerth cannoedd o bunnoedd o bysgod ffres.

Yn yr wythnosau diwethaf mae Safonau Masnach Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn adroddiadau am bobl sy’n gwerthu pysgod o ddrws i ddrws.

Dywedodd Andrew Parry, Swyddog Gwarchod y Cyhoedd o Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Gwynedd, ei fod yn bryderus am y sefyllfa oherwydd nad oes cadarnhad bod y busnes wedi cael ei gofrestru fel busnes bwyd.

‘Diogelwch’

Meddai Andrew Parry: “Yn aml iawn pan mae rhywun yn prynu pysgod gan werthwyr o ddrws i ddrws, nid oes gan y prynwr unrhyw ffordd o wybod sut mae’r pysgod wedi cael eu storio ac os ydynt yn ddiogel i’w bwyta.

“Yn aml mae gwerthwyr o’r fath yn defnyddio cerbydau heb oergell, a gall materion godi yn ymwneud a labelu ac ansawdd y pysgod.

“Byddem yn nodi mai’r lle gorau i brynu pysgod ydi gan werthwr pysgod ag enw da mewn siop neu stondin sefydledig.”

Mae unrhyw un yng Ngwynedd sydd â rhagor o wybodaeth am y gwerthwyr pysgod, yn cael eu hannog i gysylltu â Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd ar (01286) 682728.