Mae Awstralia erbyn hyn yn arwain y chwilio am yr awyren  Boeing 777 aeth ar goll.

Bydd Awstralia yn arwain y chwilio dros dde Cefnfor India wrth i lywodraeth Malaysia apelio ar lywodraethau eraill am wybodaeth radar ac awyrennau i’w cynorthwyo yn y chwilio sy’n digwydd dros ardal enfawr o dir a môr.

Mae’r awdurdodau wedi dweud bod awyren Malaysia Airlines wedi cael ei ddargyfeirio’n fwriadol a chafodd yr offer cyfathrebu hefyd ei diffodd yn fuan ar ôl iddi gychwyn ar ei thaith dros nos o Kuala Lumpur i Beijing ar 8 Mawrth.

Erbyn hyn, mae amheuaeth am unrhyw un a oedd ar yr awyren gyda phrofiad hedfan – yn enwedig y peilot a’r cyd-beilot.

Dros y penwythnos, fe wnaeth heddlu Malaysia chwilio tai’r peilot a’r cyd-beilot gan gymryd offer hedfan o dŷ’r peilot.

Dywedodd Prif Weinidog Awstralia, Tony Abbott, wrth y senedd ei fod wedi cytuno i gymryd yr awenau wrth chwilio de Cefnfor India am yr awyren.

Mae 26 o wledydd yn cymryd rhan yn y chwilio erbyn hyn meddai llywodraeth Malaysia mewn datganiad heddiw.