Mae pennaeth cynllun rheilffordd gyflym HS2 wedi dweud y dylid cyflymu’r broses o adeiladu ail ran y prosiect £50 biliwn.
Mae cadeirydd HS2 Syr David Higgins wedi dweud y dylid cyflymu’r amserlen ar gyfer y cynllun yng ngogledd Lloegr gyda’r lein yn cael ei ymestyn i Crewe yn Sir Gaer a’i gwblhau erbyn 2027, chwe blynedd yn gynt na’r disgwyl.
Wrth lansio adroddiad HS2 Plus, mae Syr David Higgins hefyd yn galw am ffyrdd o wella’r cysylltiadau rhwng rhan 2 a’r rheilffordd bresennol.
Yn ogystal mae’n awgrymu datblygiad ehangach yn Euston yn Llundain.
Fe fydd rhan un HS2 yn gweld rheilffordd gyflym rhwng Llundain a Birmingham ac mae disgwyl i’r cynllun gael ei gwblhau erbyn 2026.
Fe fydd ail ran y prosiect yn cysylltu Birmingham gyda’r gogledd orllewin a gogledd ddwyrain Lloegr ac, o dan y cynlluniau presennol, mae disgwyl i’r ail ran gael ei gwblhau erbyn tua 2032/33.
Mae disgwyl i’r prosiect cyfan gostio £42.6 biliwn gyda £7.5 biliwn ar gyfer y trenau.
Ond mae nifer, gan gynnwys Ed Balls o’r Blaid Lafur, wedi mynegi pryder am gost y cynllun.
Mae Syr David Higgins yn dadlau y bydd cyflymu’r prosiect yn lleihau’r gost.