Milwr o Rwsia yn y Crimea
Fe fydd gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd yn cwrdd heddiw i ystyried sancsiynau yn erbyn Moscow ar ôl i’r Gorllewin ddweud na fyddai’n cydnabod refferendwm y Crimea.

Roedd 96% wedi pleidleisio o blaid torri’n rhydd o’r Wcráin ac ymuno a Rwsia.

Dywedodd yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd neithiwr na fydden nhw’n cydnabod canlyniad y refferendwm maen nhw’n ei ystyried sy’n “anghyfreithlon”.

Roedd y mwyafrif helaeth yn y Crimea wedi pleidleisio o blaid ymuno a Rwsia, a dywedodd y Prif Weinidog Sergey Aksyonov y byddai senedd y rhanbarth yn gwneud cais ffurfiol i Moscow i wahanu oddi wrth yr Wcrain.

Mae disgwyl i swyddogion o’r Crimea deithio i Moscow heddiw i gynnal trafodaethau.

Gyda 60% o’r boblogaeth yn y Crimea yn Rwsiaid, a’r lleiafrif yn Wcrainiaid a Thartariaid – a oedd wedi boicotio’r refferendwm – nid oedd y canlyniad yn annisgwyl.

Cosbau

Mae Ysgrifennydd Tramor Prydain William Hague wedi rhybuddio y dylai Moscow wynebu “cosbau economaidd a gwleidyddol”  am ei ymyrraeth yn y refferendwm.

Fe fydd gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cwrdd ym Mrwsel, yn ystyried camau pellach gan gynnwys cyflwyno gwaharddiad ar fisas a rhewi asedau.

Mae’r Tŷ Gwyn hefyd wedi bygwth sancsiynau gan ddweud bod gweithredoedd Rwsia yn “beryglus ac yn achosi ansefydlogrwydd.”