Nick Griffin - mae un o'i warchodwyr personol wedi'i arestio
Mae un o warchodwyr arweinydd plaid y BNP wedi ei aresio yng Nglannau Merswy.

Fe gafodd Martin Reynolds, 46, ei arestio y tu allan i ddisgwyddiad codi arian i’r British National Party yn St Helens am 6yh ddydd Sadwrn, Mawrth 15.

Mae Heddlu Glannay Merswy wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cael eu galw i Forrester Avenue, Thatto Heath, gan wraig oedd yn honni i ddyn ddod allan o gar a gwneud sylw difriol amdani.

Fe gafodd Mr Reynolds, sy’n hanu o ardal Leeds yn Swydd Efrog, ei arestio yn dilyn hyn ar amheuaeth o dorri’r gyfraith yn ymneud â’r drefn gyhoeddus.

Mae lluniau o’r arestio, ar dudalen Facebook y BNP, yn dangos arweinydd y blaid, Nick Griffin, yn edrych ar Martin Reynolds yn cael ei gludo ymaith gan swyddogion yr heddlu. Ar yr un dudalen, mae’r blaid yn honni mai rhesymau “gwleidyddol” oedd y tu ôl i’r digwyddiad, ac nad yw’r heddlu eto wedi cyhoeddi pam iddo gael ei arestio.

Ond mae Heddlu Glannau Merswy wedi cadarnhau heddiw eu bod nhw parhau i ymchwilio i’r mater.