Mae gyrrwr wedi’i ladd mewn damwain ffordd a gaeodd draffordd brysur yn Lloegr am bump awr.

Roedd y dyn a laddwyd yn gyrru car Ford Focus a fu mewn gwrthdrawiad gyda chefn lori Asda, wrth i’r ddau gerbyd deithio i gyfeiriad y de ar draffordd yr M6 yn y West Midlands ben bore heddiw.

Ger cyffordd 10, a’r troad am Walsall, y digwyddodd y ddamwain, ac fe fu’r gyrrwr farw yn y fan a’r lle. Er i’r gwasanaethau brys geisio ei ddadebru, fe fethon nhw.

Fe ddioddefodd gyrrwr 54 oed y lori fân anafiadau, ond roedd wedi ei ysgwyd yn ofnadwy gan y digwyddiad. Fe gafodd ei hebrwng gartre’ i Erdington, Birmingham, gan swyddogion o Heddlu’r West Midlands.

Mae’r heddlu erbyn hyn yn mynd trwy luniau teledu cylch cyfyng ac yn holi tystion, er mwyn ceisio darganfod sut y digwyddodd y ddamwain.