Perthnasau'r teithwyr yn aros am newyddion
Mwy na phedwar diwrnod ar ôl i awyren Malaysia Airlines fynd ar goll, mae’r awdurdodau’n dweud nad ydyn nhw’n gwybod i ba gyfeiriad yr oedd yr awyren yn mynd pan ddiflannodd.

Roedd yr awyren Boeing 777 yn cludo 239 o deithwyr.

Mae ’na ddryswch ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd i’r awyren ond mae’r awdurdodau’n credu y gallai fod wedi troi’n ôl rhwng Malaysia a Fietnam, ac mae’n bosib y gallai fod wedi teithio mor bell â Chulfor Malacca i’r gorllewin o Falaysia.

Mae’n ddirgelwch sut y llwyddodd yr awyren i wneud hyn oni bai bod system drydanol yr awyren wedi methu neu wedi ei throi i ffwrdd.

Yn y cyfamser mae perthnasau’r rhai oedd ar fwrdd yr awyren o Kuala Lumpur i Beijing yn aros yn eiddgar am wybodaeth ynglŷn â thynged y teithwyr.