Mae bwrdd arholi CBAC am gynnal adolygiad mewnol yn dilyn pryderon am ganlyniadau TGAU Saesneg Iaith is na’r disgwyl yng Nghymru.
Fe wnaeth athrawon ledled y wlad fynegi pryderon am ganlyniadau’r arholiad newydd a oedd yn benodol i ddisgyblion Cymru ac a gafodd eu cynnal ym mis Ionawr, gan ddweud eu bod yn “annisgwyl o isel”.
Ychwanegodd Robin Hughes o Fwrdd Arweinwyr Ysgolion a Cholegau fod athrawon mewn “dipyn o benbleth am y safon sy’n cael ei osod.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod angen i swyddogion ymchwilio i’r mater ar frys ac mae Simon Thomas o Blaid Cymru wedi dweud y dylai disgyblion gael y cyfle i ail-farcio neu ail-sefyll eu harholiad.
Cyfle i ail-eistedd
Wrth gyflwyno cwestiwn brys i’r Senedd, dywedodd Simon Thomas fod cyflwyno’r arholiadau newydd wedi bod yn “flerwch” ar ran Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd fod canlyniadau Cymru yn y penawdau “am y rhesymau anghywir”.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis y byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl am ganlyniadau’r arolwg cyn dod i unrhyw gasgliad.
Llythyr Agored
Mae CBAC wedi cyhoeddi llythyr agored i ysgolion sy’n dweud y bydd y bwrdd arholi yn rhoi mwy o gymorth i ysgolion cyn yr arholiadau TGAU nesaf ym mis Mehefin.
Yn ôl y bwrdd, fe fydden nhw’n:
- cynnal cyfres o gyfarfodydd adolygu ar ôl yr arholiadau ar ddiwedd Mawrth a dechrau Ebrill, yn rhanbarthol.
- rhoi deunyddiau sy’n cael eu paratoi ar gyfer y digwyddiadau hyn ar wefan CBAC
- darparu deunyddiau asesu enghreifftiol ychwanegol, ynghyd â chynlluniau marcio, ar gyfer y cwestiynau sy’n asesu darllen ym mhob uned, erbyn dechrau tymor yr haf
- rhoi adborth ychwanegol ar y ddau gwestiwn a brofodd i fod y rhai mwyaf heriol ar bapurau Ionawr
Bydd casgliadau’r adolygiad yn cael eu rhannu â’r canolfannau unigol rhwng 13 a 19 Mawrth.