Fe fydd David Cameron ac arweinwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd yn cynnal trafodaethau ym Mrwsel heddiw i geisio lleihau’r tensiynau yn yr Wcrain.

Y bwriad yw anfon neges glir i Moscow am “ganlyniadau sylweddol” o ganlyniad i ymyrraeth Rwsia yn yr Wcrain.

Daw’r cyfarfod ar ôl i Arlywydd Rwsia Vladimir Putin wrthod symud milwyr o’u safleoedd a chydnabod y llywodraeth newydd yn Kiev, a hynny er gwaetha pwysau gan wledydd y Gorllewin.

Mae Undeb Ewropeaidd bellach wedi rhewi asedau 18 o bobl sy’n cael eu hamau o “gamddefnyddio” arian yr Wcrain – gan gynnwys y cyn Arlywydd Viktor Yanukovych a rhai o’i swyddogion.