Y brotest tu allan i swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth
Dywed Cymdeithas yr Iaith bod 12 o ymgyrchwyr wedi clymu eu hunain i gatiau swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth y bore yma gan ddweud eu bod wedi “cael llond bol” gyda diffyg ymateb Carwyn Jones i ganlyniadau “argyfyngus” y Cyfrifiad.

Mae’r weithred yn rhan o gyfres y bydd ymgyrchwyr iaith yn eu trefnu dros y gwanwyn, er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg trwy weithredu chwe phwynt polisi.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod yn delio gyda digwyddiad ar y safle.

Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd casgliadau’r Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sefyllfa’r iaith yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad – ymysg y prif argymhellion roedd cynyddu’r buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg yn gyffredinol; newidiadau radical i addysg Gymraeg ail iaith; a newidiadau i’r gyfraith gynllunio. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai’n lansio ymgyrch i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg bum gwaith y dydd.

Ond yn ôl y mudiad, doedd “dim un gair am y Gymraeg” ym Mil Cynllunio drafft y Llywodraeth.

‘Llond bol’

Meddai Cen Llwyd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Rydyn wedi cael llond bol â disgwyl ymateb cadarn a chlir gan Carwyn Jones. Mae pawb call yn derbyn bod argyfwng yn wynebu’r iaith, ond dyw’r Llywodraeth dal ddim yn gwneud dim. Rydyn ni am barhau i obeithio y gwelwn ni newid cadarnhaol, achos gydag ewyllys gwleidyddol, gallai’r iaith ffynnu dros y blynyddoedd i ddod.

“Ymhell dros flwyddyn ers canlyniadau’r Cyfrifiad, mae diffyg gweithredoedd y Llywodraeth yn chwerthinllyd.”

‘Dyhead y genhedlaeth bresennol’

Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Rwy’n falch iawn o allu sefyll gyda myfyrwyr heddiw – gyda’n gilydd rydyn ni’n cynrychioli dyhead y genhedlaeth bresennol, a’r rhai sydd i ddod, i gael byw yn Gymraeg ac i weld gweithredu er mwyn sicrhau hynny.

“Ers dros flwyddyn, rydym wedi llythyra, cynnal cyfarfodydd, cymryd rhan mewn cynadleddau a thrafodaethau di-ri gyda’r Llywodraeth. Nawr, trwy’r anufudd-dod dinesig yma, rydym am bwysleisio wrth Carwyn Jones nad mater bach yw’r Gymraeg i bobl Cymru.”

Mae’r brotest yn rhan o ymgyrch ehangach y Gymdeithas sy’n rhoi pwysau ar y Llywodraeth Lafur i weithredu ar frys dros y Gymraeg.

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau, sef addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i’r iaith, a threfn gynllunio newydd er budd ein cymunedau.