Mae BBC Cymru ac S4C wedi penderfynu na fydd rhaglen omnibws Pobol y Cwm yn cael ei darlledu ar brynhawn Sul o fis Medi ymlaen.
Daw’r penderfyniad yn sgil yr hyn mae S4C wedi’i alw’n “newidiadau i batrymau gwylio”.
Dywedon nhw hefyd fod y rhaglenni ar gael i’w hail-wylio ar-lein, sy’n golygu bod llai o alw am raglen brynhawn Sul.
Ddoe, fe gyhoeddodd y BBC y gallai sianel BBC3 ddod i ben am union yr un rheswm.
Fe fydd nifer y penodau o Pobol y Cwm sy’n cael eu dangos yn ystod yr wythnos hefyd yn gostwng o bump i bedair, ac fe fydd seibiant o bythefnos y flwyddyn o fis Ionawr 2015 ymlaen.
Er mai BBC Cymru sy’n ariannu’r rhaglen, S4C sydd wedi bod yn ariannu’r rhaglen omnibws.
‘Awyrgylch ariannol anodd iawn’
Dywedodd Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg, BBC Cymru, Sian Gwynedd: “Mae hwn wrth gwrs yn newyddion siomedig ond ry’n ni’n cydnabod bod S4C, fel y BBC, yn gweithredu mewn awyrgylch ariannol anodd iawn ar hyn o bryd.
“Ry’n ni hefyd yn ffyddiog y bydd Pobol y Cwm yn parhau i apelio at gynulleidfaoedd ledled Cymru.
“Mae Pobol y Cwm yn un o gyfresi amlycaf y BBC ac S4C ac mae gennym straeon cyffrous i’w datblygu yn ystod y flwyddyn – a hithau’n dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni.”
Ychwanegodd Sian Gwynedd: “Mae’n rhy gynnar i ddweud beth fydd yr union effaith ar y tîm cynhyrchu.
“Ry’n ni’n canolbwyntio’n gyntaf ar drafod goblygiadau’r newid gyda’r staff cynhyrchu, yr artistiaid, yr Undebau Llafur, y Writers Guild ac Equity.”
‘Methu cyfiawnhau parhau’
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys: “Yn sgil toriadau i gyllideb S4C fydd yn parhau dros y blynyddoedd i ddod, ry’n ni dal i edrych ar sut i ddod o hyd i doriadau pellach yn ein gwariant.
“Er ein bod yn ymwybodol cymaint y mae omnibws wythnosol Pobol y Cwm yn ei olygu i bobl, ni allwn barhau i dalu’r hyn ry’n ni’n ei dalu ar hyn o bryd.
“Serch hynny, mae gwylwyr yn gallu gweld penodau Pobol y Cwm gydag is-deitlau drwy wasanaeth ar-lein, ar alw S4C, Clic, ac ar BBC iPlayer.
“Yn S4C, mae yna werthfawrogiad enfawr o waith pob aelod o dîm Pobol y Cwm, a byddwn yn dal i gefnogi’r gyfres yn ariannol ac yn greadigol er mwyn cynnal ei safonau cynhyrchu uchel.
“Serch hynny, yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni a’r newidiadau i batrymau gwylio, gallwn ni ddim cynnal lefel y gefnogaeth ariannol bresennol.
“Rwy’n ffyddiog y bydd peth o’n harbedion yn cael eu hail-fuddsoddi i ddatblygu drama gyda’r sector gynhyrchu annibynnol.
“Ry’n ni wedi ymrwymo hefyd i weithio gyda’r BBC i ddatblygu cynlluniau drama newydd yn y dyfodol.”
Ychwanegodd ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru heddiw: “Mae arferion gwylio pobol wedi newid felly mae’n anodd iawn i ni gyfiawnhau parhau gyda’r rhaglen omnibws.”
Dywedodd ei bod hi’n rhy gynnar i ystyried pa effaith fydd y newidiadau’n ei chael ar y staff.
Fe fydd cyfres o gyfarfodydd rhwng actorion a’r undebau dros y dyddiau nesaf.