Mae’r BBC yn ystyried cael gwared a sianel ddigidol BBC 3, a throsglwyddo cynnwys y sianel i wefan iPlayer.

Mewn araith yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd cyfarwyddwr y BBC Tony Hall fod angen i’r gorfforaeth wneud mwy o doriadau er mwyn “canolbwyntio ar beth maen nhw’n ei wneud orau.”

Ers hynny, mae awgrymiadau fod un ai’r sianel i bobol ifanc, BBC3, neu BBC4 yn mynd i gael eu torri. A gan fod penaethiaid yn credu fod gwylwyr ifanc BBC3 yn fwy tebygol o wylio’r cynnwys ar lein, y sianel yma yw’r dewis amlycaf.

Cafodd Gavin and Stacey ei ddarlledu ar BBC3, ac mae rhai actorion a ddechreuodd eu gyrfaoedd ar y sianel wedi dechrau ymgyrch i warchod y sianel.

Dywedodd y digrifwr Jack Whitehall, a oedd wedi sgriptio ac actio yn y gyfres Bad Education ar BBC3: “Rwyf wir yn gobeithio mai sïon yw’r adroddiadau am ddod a BBC3 i ben. Mae eu cefnogaeth i gomedi yn hanfodol.”

A dywedodd Matt Lucas o’r gyfres gomedi  Little Brittain y byddai rhoi’r gorau i’r sianel yn “newyddion drwg iawn i gomedi newydd.”

Bydd yn rhaid i unrhyw gynnig i roi’r gorau i’r sianel gael cymeradwyaeth gan Ymddiriedolaeth y BBC.