Vladimir Putin
Mae Arlywydd Rwsia Vladimir Putin wedi gorchymyn milwyr, sy’n cynnal ymarferiadau milwrol yng ngorllewin Rwsia ger y ffin a’r Wcrain, i ddychwelyd i’w canolfan filwrol, yn ôl adroddiadau.

Daeth y gorchymyn bron i wythnos ers i Rwsia ddechrau cynnal ymarferiadau milwrol yng ngorllewin Rwsia gan gynyddu’r pryderon y gallai’r Kremlin ddefnyddio milwyr i gipio tiriogaeth mewn ardaloedd yn nwyrain yr Wcrain.

Roedd hyd at 16,000 o filwyr wedi meddiannu Penrhyn y Crimea yn yr Wcrain dros y penwythnos gan anwybyddu galwadau gan yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd i gilio o’r rhanbarth.