Mae dirprwy bennaeth polisi David Cameron wedi ymddiswyddo yn dilyn honiadau yn ymwneud a lluniau anweddus o blant, meddai Downing Street.

Cafodd Patrick Rock, a oedd wedi bod yn gysylltiedig â pholisi’r Llywodraeth yn ymwneud a  rheoleiddio pornograffi ar y rhyngrwyd, ei arestio gan dditectifs o’r Asiantaethau Troseddau Cenedlaethol (NCA).

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street ei fod wedi’i arestio ynglŷn â “throsedd bosib yn ymwneud a delweddau o gam-drin plant.”

Cafodd Patrick Rock, 62 oed, ei arestio yn ei gartref ar 13 Chwefror a chafodd swyddogion fynediad i’w gyfrifiaduron a swyddfeydd yn Rhif 10, ychwanegodd.