Mae ymgyrch wedi dechrau i symud trigolion o ddinas Homs yn Syria, lle mae gwrthryfelwyr wedi bod yn rheoli ers mis Gorffennaf 2012.
Mae llywodraeth arlywydd Syria, Bashar Assad, wedi dod i gytundeb gyda’r Cenhedloedd Unedig i ganiatau i gannoedd o drigolion adael rhannau o ddinas Homs, a chaniatáu i gymorth dyngarol fynd i mewn i’r ddinas.
Dywedodd Llywodraethwr Homs, Talal Barrazi, mai merched a phlant fydd yn cael y flaenoriaeth ac na fydd dynion sydd rhwng 15 a 55 oed yn cael symud o’r ardal. Dywedodd hefyd fod lloches wedi ei baratoi ar eu cyfer.
Am tua hanner dydd heddiw, fe waeth y grŵp cyntaf o drigolion, adael Jouret el-Shayah. Mae’n debyg fod tua 3000 o bobol o dan warchae yn Homs.
Yn ystod y gwrthryfel, mae mwy na 130,000 o bobol wedi marw ac mae mwy na 2.3 miliwn o bobol wedi ceisio lloches dramor.
Cafodd sefyllfa’r wlad ei drafod mewn trafodaethau heddwch yn Genefa’r wythnos diwethaf, ac mi fydd trafodaeth arall yn cael ei chynnal ar 10 Chwefror – gyda chynrychiolwyr llywodraeth Syria yn bresennol.