Does gan gadeirydd Asiantaeth yr Amgylchedd
ddim bwriad ymddiswyddo ac mae’n parhau i fod yn “falch iawn” o waith ei staff.
Roedd yr Arglwydd Smith yn siarad wrth iddo ymweld â phentref Stoke St Gregory, un o’r ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd yng Ngwlad yr Haf.
Ychwanegodd na fyddai’n cael ei berswadio i ymddiheuro i drigolion sydd wedi cael eu symud o’u cartrefi a mynnodd mai’r flaenoriaeth i’r awdurdodau oedd “diogelu bywydau” ac yna diogelu cartrefi a busnesau.
Daeth ymweliad yr Arglwydd Smith wythnos ar ôl i Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Owen Paterson, gael ei heclo gan drigolion lleol yng Ngwlad yr Haf.
Mae milwyr yn yr ardal ar hyn o bryd yn helpu symud trigolion tua 140 o gartrefi ym mhentref Moorland i ddiogelwch . Mae hyn yn dilyn noson arall o law trwm sydd wedi bod yn ormod i amddiffynfeydd llifogydd ac, er gwaethaf cyngor gan yr heddlu, mae llond llaw o bobl wedi dewis aros yn eu cartrefi.
Ac mae disgwylir mwy o lifogydd yn y dyddiau nesaf gyda’r rhagolygon yn rhybuddio am dywydd garw i dde Lloegr a Chymru dros y dyddiau nesaf.
Dywedodd David Cameron, wnaeth gadeirio cyfarfod o bwyllgor brys y Llywodraeth, Cobra, neithiwr, y byddai popeth oedd angen ei wneud yn cael ei wneud ac y byddai’n ymweld Gwlad yr Haf ei hun “pan fydd yr amser yn iawn”.
Mae pwyllgor brys Cobra i fod i gyfarfod eto yn nes ymlaen heddiw.