Dave Lee Travis
Mae’n rhaid i’r rheithgor yn achos Dave Lee Travis beidio â chael eu dylanwadu gan honiadau o droseddau rhyw yn erbyn enwogion eraill.
Wrth iddo roi cyfarwyddiadau yn yr achos yn erbyn Dave Lee Travis – sy’n cael ei gyhuddo o 13 ymosodiad anweddus ac un ymosodiad rhyw – dywedodd y Barnwr Anthony Leonard wrth aelodau’r rheithgor i anghofio ei fod yn enwog wrth iddyn nhw drafod y rheithfarn.
Ddoe, cafwyd seren Coronation Street, William Roache, yn ddieuog o ddau gyhuddiad o dreisio a phedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus yn dilyn achos yn Llys y Goron Preston.
Mae’r diddanwr o Awstralia, Rolf Harris, hefyd wedi pledio’n ddieuog i 12 cyhuddiad o ymosod yn anweddus pan ymddangosodd yn y llys y mis diwethaf .
Mae Dave Lee Travis, sydd bellach yn 68, o flaen ei well am ymosod yn anweddus ar 10 o ferched ymosodiad rhyw arall mewn digwyddiadau sy’n dyddio’n ôl i 1976 ac anterth ei enwogrwydd.
Mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Wrth grynhoi’r achos, atgoffodd Barnwr Leonard y rheithgor yn Llys y Goron Southwark, Llundain bod y rhan fwyaf o’r merched sydd wedi cyhuddo Dave Lee Travis wedi gwneud cwyn ar ôl iddo gael ei arestio am y tro cyntaf.
Dywedodd y barnwr na allai dwy o’r merched gael eu cyhuddo o wneud hynny oherwydd mai nhw oedd y cyntaf i wneud cwyn amdano.
Ychwanegodd fod rhai o’r dioddefwyr honedig wedi dweud wrth ffrindiau a theulu yn syth ar ôl y digwyddiad tra bod eraill heb ddweud dim wrth neb nes iddyn nhw wneud cwyn yn ddwy flynedd ddiwethaf.