Fe fydd ysgol uwchradd Fwslimaidd a gafodd ei beirniadu am orfodi merched i orchuddio’u pennau, yn cau yr ha’ hwn.
Fe fu’n rhaid i Lywodraeth Prydain yn San Steffan ymyrryd yn achos ysgol Al-Madinah, wedi i adroddiad gan Ofsted rybyddio fod y lle “mewn anhrefn” a bod pryderon ynglyn â safon y dysgu a natur y cwricwlwm.
Yn ôl y gweinidog ysgolion, yr Arglwydd Nash: “Rydw i wedi dod i’r casgliad nad ydi hi o fudd i ddisgyblion na’u rhieni i’r ysgol i barhau. Rydw i’n hyderu y bydd y symudiad hwn i roi’r gorau i addysgu disgyblion oed uwchradd, yn rhoi’r cyfle i ymddiriedolaeth yr ysgol ffocysau ar eu disgyblion cynradd.”
Fe agorwydd Ysgol Al-Madinah yn Derby fel sefydliad addysg Mwslimaidd yn 2012, ar gyfer disgyblion 4-16 oed.