Mae pwyllgor hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig wedi beirniadu’r Fatican am  fabwysiadu polisïau oedd yn caniatáu i offeiriaid  gam-drin degau o filoedd o blant.

Mae’r pwyllgor hefyd yn annog y Fatican i gyhoeddi ei ffeiliau ar y pedoffiliaid ac eglwyswyr wnaeth guddio eu troseddau.

Mewn adroddiad damniol, mae pwyllgor y Cenhedloedd Unedig hefyd wedi condemnio’r eglwys am ei agweddau tuag at gyfunrywioldeb, atal cenhedlu ac erthylu ac mae’n eu hannog i adolygu ei pholisïau i sicrhau bod hawliau plant a’u mynediad i ofal iechyd.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei argymhellion ar ôl diwrnod o holi’r Esgobaeth Sanctaidd fis diwethaf ar weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, y prif gytundeb rhyngwladol sy’n sicrhau hawliau plant.