Coeden wedi cwympo ar westy'r Cadwgan yn Nyffryn Ardudwy Llun: Erfyl Lloyd Davies
Mae David Cameron wedi cynnal cyfarfod brys o bwyllgor Cobra heddiw i drafod yr ymateb i’r stormydd  sydd wedi gadael miloedd o dai heb gyflenwad trydan dros nos.

Yn dilyn y cyfarfod prynhawn ma dywedodd y Prif Weinidog na fyddai “unrhyw gyfyngiadau” ar yr help sydd ei angen gan bobl sydd wedi’u heffeithio gan y stormydd a’r llifogydd.

Cyhoeddodd David Cameron hefyd y bydd £100 miliwn yn ychwanegol yn cael ei wario yn ystod y flwyddyn nesaf er mwyn delio gydag effeithiau’r llifogydd.

Bydd £75 miliwn yn mynd tuag at atgyweirio, £15 miliwn ar gynnal a chadw, a £10 miliwn ar gyfer “gwaith brys” sydd angen ei wneud yng Ngwlad yr Haf.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod am wneud “beth bynnag sydd ei angen i helpu teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio.”

Effaith

Roedd 1,300 o gartrefi heb drydan yn ne Cymru neithiwr ac fe gwympodd coeden ar estyniad gwesty’r Cadwgan yn Nyffryn Ardudwy gan beri difrod i ran o’r adeilad.

Roedd tai o Sir Benfro i Gaerdydd wedi cael eu heffeithio a bu peirianwyr yn gweithio drwy’r nos er mwyn adfer y cyflenwad trydan.

Yn ne orllewin Lloegr, ble mae’r storm wedi bod ar ei waethaf, mae cwmni  Western Power Distribution wedi dweud bod 5,000 o dai yn parhau i fod heb drydan.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y bydd gwyntoedd hyd at 70mya yn hyrddio o fewn yr oriau nesaf ac maen nhw’n galw ar bobl sy’n byw mewn ardaloedd arfordirol i fod yn wyliadwrus gan fod disgwyl llanw uchel eto heno.

Mae pedwar rhybudd llifogydd a saith rhybudd i bobl fod yn wyliadwrus mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd.

Maen nhw’n disgwyl gwyntoedd o ryw 60-70 milltir ar draws de Cymru, Dyfnaint, Cernyw, Gwlad yr Haf a Dorset.