Llys y Goron Abertawe
Mae’r barnwr yn parhau i grynhoi’r dystiolaeth yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Joanna Hall yn Ninbych-y-pysgod y llynedd.
Cafodd Joanna Elizabeth Hall, 35, o Ddinbych y Pysgod, ei thrywanu 40 o weithiau ar ôl ymosodiad yn ei fflat ym mis Mawrth 2013. Bu farw yn yr ysbyty 19 diwrnod yn ddiweddarach.
Mae ei chariad Steven Daniel Williams, 30, o Heol Marsh, Dinbych y Pysgod yn gwadu cyhuddiad o’i llofruddio.
Ddoe dywedodd y barnwr Mrs Ustus Davies wrth y rheithgor bod yn rhaid iddyn nhw benderfynu, yn gyntaf, ai Steven Williams oedd yn gyfrifol am drywanu Joanna Hall, ac yn ail, os wnaeth o fwriadu ei hanafu.
Os ydyn nhw’n sicr mai Williams wnaeth, a’i fod o hyd yn oed yn ei ddiod wedi bwriadu ei hanafu hi, mae’n rhaid iddyn nhw ei gael yn euog o’i llofruddiaeth, meddai’r barnwr.
Cefndir
Mae’r rheithgor yn Llys y Goron Abertawe eisoes wedi clywed bod Joanna Hall wedi dweud wrth ei chwaer a’r heddlu mai Steven Williams oedd wedi ymosod arni.
Mae o’n honni ei fod wedi mynd allan i brynu sigaréts a photel wisgi a’i fod wedi dychwelyd i’r fflat a dod o hyd i Joanna’n gwaedu ar y llawr, gan ddweud y gallai rhywun fod wedi ymosod arni tra’r oedd o wedi mynd allan.
Ond mae Elwen Evans QC ar ran yr erlyniad yn honni bod Steven Williams wedi trywanu Joanna Hall ac wedi aros iddi farw am hyd at bum awr cyn ffonio am help.
Roedd negeseuon ffôn yn awgrymu bod y ddau wedi cael ffrae’r noson honno.
Mae’r achos yn parhau.