Mi fydd Age Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu mwy o ardaloedd sy’n gwahardd galwadau drws gan fasnachwyr sy’n galw ar hap, er mwyn gwarchod yr henoed.
Bydd Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr, Darren Millar, yn arwain y drafodaeth yn y Senedd heddiw, sydd hefyd am fod yn trafod pryderon nad yw rhai pobl oedrannus yn gallu fforddio talu am wres yn eu cartrefi.
Fe wnaeth Age Cymru, elusen sy’n gwarchod yr henoed, wneud cais rhyddid gwybodaeth er mwyn darganfod faint o ardaloedd sy’n gwahardd galwadau drws diwahoddiad.
Datgelwyd nad oedd pedwar cyngor yng Nghymru yn gwahardd galwadau o gwbl, gydag awdurdodau lleol eraill yn gwahardd y galwadau mewn hyd at 8,000 o dai.
Yn Ynys Môn, mae pentref Llandegfan eisoes wedi gwahardd galwadau drws diwahoddiad – y pentref cyntaf yng Nghymru i wneud hynny. Daeth y gwaharddiad i rym ar ôl i’r cyngor ddarganfod fod 97% o’r trigolion o blaid hynny.
‘Gwastraff amser’
Mae cydgysylltwr ymgyrchoedd Age Cymru, Gerry Keighley, yn dweud fod angen mwy o ardaloedd sy’n gwahardd galwadau diwahoddiad, a bod rhaid i’r Llywodraeth wneud y broses o greu’r ardaloedd hyn yn haws.
“Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau fod mwy o ardaloedd i warchod yr henoed, a bod y gost o’u creu yn cael ei leihau.”
“Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i Safonau Masnach gysylltu â phob un tŷ i ofyn a ydyn nhw eisiau bod mewn ardal sy’n cael ei gwarchod rhag y galwadau, ond nid ydym ni erioed wedi clywed am ardal sydd wedi gwrthod hyn.
“Rydym ni’n credu ei fod yn broses diangen ac yn wastraff amser.”