Carchar Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae ymchwiliad ar y gweill wedi i garcharor farw yng Ngharchar Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd Mohamoud Ali, 36, ei ddarganfod yn anymwybodol yn ei gell gan staff y carchar tua 7 bore Sadwrn.
Ceisiodd y staff roi cymorth cyntaf iddo a chafodd parafeddygon eu galw ond bu farw yn fuan wedyn am 7:49yb.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: “Fel sy’n digwydd gyda phob marwolaeth mewn carchar, bydd y Carchardai Annibynnol a’r Ombwdsmon Prawf yn cynnal ymchwiliad.”
Fis diwethaf, cafodd y carchar, sy’n dal 1,300 o garcharorion, ei ganmol mewn adroddiad gan y prif arolygydd carchardai.