Mae gwefan rhyngweithio cymdeithasol Facebook – y prosiect wnaeth ddechrau mewn ystafell myfyriwr – yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed heddiw.

Wythnos diwethaf, fe wnaeth y cwmni gyhoeddi ei fod wedi gwneud elw o £1.5 biliwn y llynedd – cynnydd o £0.6 biliwn ar yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Ond wrth i’r cwmni ddathlu deng mlwyddiant llwyddiannus, mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â  dyfodol Facebook.

Dechreuodd y syniad ym mis Chwefror 2004 pan lansiodd myfyriwr seicoleg o Brifysgol Harvard, Mark Zuckerberg, y safle rhwydweithio cymdeithasol o’i ystafell wely.

Roedd o eisoes wedi datblygu nifer o wefannau rhwydweithio eraill ar gyfer cyd fyfyrwyr gan gynnwys Coursematch, a oedd yn caniatáu defnyddwyr i weld pobl oedd yn gwneud yr un cwrs gradd a nhw, a Facemash, gwefan oedd yn gofyn i ddefnyddwyr  roi marciau i fyfyrwyr yn ôl pa mor ddeniadol oedden nhw.

1.2 biliwn o ddefnyddwyr

Ond Thefacebook.com oedd y wefan wnaeth gydio yn nychymyg pobl gan ganiatáu i israddedigion Harvard greu proffiliau ar-lein ac arddangos gwybodaeth bersonol a lluniau.

O fewn mis, roedd hanner poblogaeth myfyrwyr y brifysgol gyda chyfrif ac yn fuan wedyn cafodd y wefan ei ehangu i gynnwys colegau a phrifysgolion eraill yn America.

Cafodd Facebook.com ei brynu yn Awst 2005 a’r mis canlynol roedd myfyrwyr ysgolion America hefyd yn cael cofrestru.

Erbyn hyn mae gan Facebook 1.2 biliwn o ddefnyddwyr ar draws y byd.

10 mlynedd arall?

Ond mae Dr Markos Zachariadis sydd wedi gwneud gwaith ymchwil i’r cwmni yn rhybuddio y gall y wefan fod mewn perygl yn y dyfodol.

“Dyma’r wefan rhwydwaith cymdeithasol fwyaf yn y byd, ond mae llawer yn gofyn a fydd yn parhau am 10 mlynedd arall.

“Efallai y daw gwefan a dyfais arall i fygwth ei sefyllfa yn y farchnad, ond mae Facebook  mewn sefyllfa dda i ehangu a thyfu ymhellach, ac ychwanegu gwasanaethau newydd i gadw defnyddwyr,” meddai Dr Markos Zachariadis.