Dyw llawer o bobl ddim yn ymwybodol o’r cysylltiadau rhwng canser a diet iach, pwysau corff a gweithgarwch corfforol  yn ôl elusen .

Dywedodd Cronfa Ymchwil Canser y Byd nad yw llawer o bobl yn gwybod bod llawer y gallant ei wneud i atal cael canser.

Ychwanegodd yr elusen ei bod yn gweithio i chwalu’r myth bod pob canser yn anochel.

Mae arolwg newydd gan y Gronfa, a ryddhawyd i nodi Diwrnod Canser y Byd, yn dangos bod 49% o bobl ddim yn gwybod y gall diet effeithio’r siawns o gael canser.

Yn ogystal, nid oedd dwy ran o dair o’r 2,000 o oedolion ym Mhrydain a gafodd eu holi yn gwybod am y cysylltiadau rhwng canser ac ymarfer corff a doedd 59% ddim yn gwybod am y cysylltiad  rhwng canser a phwysau corff.

Ac mae 34% o bobl yn credu eu bod nhw’n fwy tebygol o gael canser oherwydd hanes teuluol o’r clefyd er mai dim ond 5% i 10% o ganserau sy’n gysylltiedig â genynnau etifeddol.

Mae’r elusen yn gweithio ochr yn ochr â’r Undeb Rhyngwladol ar gyfer Rheoli Canser i annog pobl i gymryd camau i leihau’r risg o ddatblygu canser, gan gynnwys:

–          Bwyta diet iach

–          Cynnal pwysau iach â BMI rhwng 18.5 a 25

–          Ymarfer corff am o leiaf 30 munud bob dydd

Dywedodd rheolwr cyffredinol Cronfa Ymchwil Canser y Byd, Amanda McLean: “Ar Ddiwrnod Canser y Byd 2014, mae hi’n frawychus iawn gweld bod nifer mor fawr o bobl ddim yn gwybod bod yna lawer y gallant ei wneud i leihau eu risg o gael canser.

“Yn y DU, gallai tua thraean o’r canserau mwyaf cyffredin gael eu hatal trwy gynnal y pwysau cywir, bwyta diet iach ac ymarfer corff yn rheolaidd .

“Trwy wneud newidiadau i’n ffordd o fyw heddiw, gallwn helpu i atal canser yfory.”