Cafodd heddlu arfog eu galw i ddigwyddiad yng Nghaerdydd y bore ma.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu De Cymru, cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Ffordd Colum yn y ddinas am oddeutu 7yb heddiw.

Cafodd heddlu arfog eu hanfon i’r digwyddiad i sicrhau diogelwch y cyhoedd a’r heddlu yn yr ardal.

Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio.

Roedd  Ffordd Colum ar gau am gyfnod byr ond mae wedi cael ei hailagor erbyn hyn.