Mae timau achub ym Mangladesh wedi tynnu 11 o gyrff o’r môr ar ôl i long bysgota fynd ar dan a suddo.
Yn ôl swyddogion, fe suddodd y llong bysgota yn Afon Surma yn ardal Sunamganj neithiwr.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd faint o bobl sy’n dal ar goll ar ôl i hyd at 50 o bobl lwyddo i nofio i’r lan.
Mae damweiniau o’r fath yn gyffredin ym Mangladesh oherwydd bod y llongau’n aml mewn cyflwr gwael ac yn cludo gormod o deithwyr.