Bydd mesur newydd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei drafod gan Aelodau Cynulliad heddiw.
Mae’n debyg mai dyma un o’r darnau mwyaf cymhleth o ddeddfwriaeth i fynd o flaen y Cynulliad.
Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd y mesur yn rhoi mwy o ryddid i bobl ddewis pa wasanaethau y maen nhw eu hangen.
Fe fydd hi hefyd yn ddyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu anghenion gofalwyr ac fe fydd y ddeddfwriaeth yn symleiddio’r ffordd mae gofal cymdeithasol yn cael ei reoli.
Mae tua 15,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn gofal cymdeithasol bob blwyddyn, ac roedd gwariant ar wasanaethau cymdeithasol yn 2010-11 yn £1.4 biliwn.
Newidiadau
Ymhlith y newidiadau sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru mae:
- Cyflwyno meini prawf cenedlaethol a sicrhau bod pobl yn cael eu hasesu ar sail eu hanghenion, yn hytrach na ar sail pa wasanaethau sydd ar gael yn yr ardal;
- Asesu anghenion gofalwyr fel bod pobl sy’n gofalu am berthynas neu gyfaill oedrannus neu anabl yn derbyn yr un hawliau â’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt;
- Sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol er mwyn gwella’r canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal.
Mae’r dirprwy weinidog gwasanaethau cymdeithasol, Gwenda Thomas, wedi dweud y bydd y mesur yn “gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Cymru.”
Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud bod y nifer fawr o newidiadau technegol a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn profi bod y mesur wedi cael ei baratoi’n wael.
Gwahardd smacio
Yn ôl y BBC, mae pleidlais ychwanegol ar wahardd smacio wedi cael ei gyflwyno gan AC Plaid Cymru Lindsay Whittle, gyda chefnogaeth gan ACau mewn pleidiau eraill, gan gynnwys rhai ar feinciau cefn Llafur.
Ond mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw fwriad i wahardd smacio cyn 2016 ac mae’r blaid yn annog eu haelodau i bleidleisio yn erbyn y cynnig.
Mae diwygiadau eraill i’r mesur yn cynnwys galluogi pobl ifanc i aros gyda theuluoedd maeth ar ôl eu pen-blwydd yn 18 mlwydd oed. .
Bydd y mesur yn cael ei gyflwyno o flaen y Cynulliad y prynhawn ‘ma.