Ed Miliband
Fe fydd ymgais Ed Miliband i ddiwygio cysylltiadau’r Blaid Lafur gydag undebau yn cael ei drafod gan bwyllgor y blaid heddiw.

Yn y cyfamser mae The Guardian wedi datgelu manylion adroddiad mewnol ynglŷn â honiadau o anghysonderau pleidleisio gan undeb Unite yn etholaeth Falkirk. Roedd Ed Miliband wedi gwrthod cyhoeddi’r adroddiad.

Mae’n debyg o gynyddu’r tensiynau dros gynlluniau Ed Miliband i ddiwygio’r cysylltiadau – sy’n cynnwys dod a diwedd i aelodaeth awtomatig aelodau o undebau llafur i’r blaid.

Mae rhai yn y blaid yn poeni y bydd y diwygiadau yn costio miliynau o bunnoedd i Lafur mewn taliadau aelodaeth ond mae arweinydd y blaid yn mynnu y bydd yn eu galluogi i gael cysylltiadau agosach gydag undebau llafur.