Prif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James
Fe wnaeth gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gaerfyrddin gytuno i gyflwyno dau gynnig o ddiffyg hyder yn arweinwyr y cyngor neithiwr.

Mewn cyfarfod a oedd wedi para am dros ddwy awr, fe wnaeth y 28 o gynghorwyr Plaid Cymru ar y cyngor gytuno’n unfrydol i gyflwyno dau gynnig o ddiffyg hyder yn arweinyddiaeth y Cyngor.

Y cyntaf yw cynnig o ddiffyg hyder yn y prif weithredwr, Mark James.

Yr ail yw cynnig o ddiffyg hyder mewn tri aelod o fwrdd gweithredol y cyngor – yr Arweinydd, Kevin Madge, y cyn-arweinydd Meryl Gravell a’r Dirprwy Arweinydd, Pam Palmer.

Roedd y tri aelod presennol yma o’r bwrdd gweithredol yn aelodau o’r bwrdd pan wnaethpwyd penderfyniadau oedd yn anghyfreithlon, yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru.

‘Anghyfreithlon’

Daw hyn yn dilyn adroddiad damniol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwneud â thaliadau i uwch swyddogion yng nghynghorau sir Caerfyrddin a Phenfro gan ddweud fod y taliadau yn “anghyfreithlon”.

Dywedodd yr Archwilydd  bod y ddau gyngor sir wedi torri’r gyfraith tros becyn cyflog a phensiwn i’w prif weithredwyr, Mark James a Bryn Parry Jones, a swyddogion eraill.

Roedd £27,000 wedi ei dalu i brif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, a dywedodd yr archwilydd bod Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi ymddwyn yn anghyfreithlon drwy roi indemniad i’r prif weithredwr.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin a Sir Penfro wedi gwadu bod y taliadau yn anghyfreithlon ond mae Plaid Cymru hefyd yn galw am gyfarfod arbennig o’r cyngor llawn ac am wahardd y prif weithredwr o’i waith tra bod ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal.

Heddlu’n ymchwilio

Mae Heddlu  Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod nhw’n cydweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ogystal â llu arall, i ymchwilio i gamymddwyn honedig o fewn Cyngor Sir Gaerfyrddin a Phenfro.

Ddoe, fe gyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin y bydd y cyngor llawn yn trafod darganfyddiadau’r adroddiad gan y Swyddfa Archwilio ar 27 Chwefror.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Kevin Madge, y byddai’n “ryddhad” i allu trafod y wybodaeth i gyd gyda’r cynghorwyr sir a’r cyhoedd.  Nid oedd y cyngor wedi gallu trafod y mater tra bod ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei gynnal, meddai.