Francois Hollande
Mae Arlywydd Ffrainc Francois Hollande wedi osgoi cwestiynau am berthynas honedig mae o wedi ei gael gydag actores trwy ddweud bod y mater yn breifat ac y dylai aros yn breifat.
Mae partner Francois Hollande, y newyddiadurwraig Valerie Trierweiler, wedi bod yn yr ysbyty ers dydd Gwener pan gyhoeddodd gylchgrawn luniau maen nhw’n dweud sy’n dangos Hollande yn mynd i gyfarfod gydag actores Ffrengig Julie Gayet. Mae’r newydd wedi ychwanegu rhagor o bwysau ar yr Arlywydd sydd eisoes yn amhoblogaidd iawn.
Dywedodd Francois Hollande mewn cynhadledd newyddion heddiw bod y cylchgrawn wedi “tarfu ar ei ryddid personol” ond ni ddywedodd os oedd yn cael perthynas gyda’r actores ai peidio.
Roedd yr Arlywydd yn wynebu’r cyfryngau am y tro cyntaf ers i’r newyddion am ei berthynas honedig fod yn gyhoeddus.