Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod corff wedi cael ei ddarganfod yn Afon Taf prynhawn ma.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r safle ger Parc Hailey, Caerdydd tua 2yh.

Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol.

Mae teulu Ashley Wells, 26, o Gabalfa yng Nghaerdydd sydd wedi bod ar goll, wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.