Mohammed Morsi
Mae pobl yn yr Aifft yn pleidleisio heddiw ar gyfansoddiad newydd i’r wlad er mwyn gosod sylfaen mwy cadarn i’r wlad ers i Mohammed Morsi gael ei ddisodli’r llynedd.

Ond mae plaid Morsi, y Frawdoliaeth Fwslimaidd, wedi galw ar bobl i foicotio’r bleidlais – eu dadl nhw yw mai Morsi yw Arlywydd etholedig y wlad.

Mae ’na fesurau diogelwch llym mewn lle gyda 160,000 o filwyr a 200,000 o blismyn yn gwarchod gorsafoedd pleidleisio ar draws y wlad.

Mae’n dilyn misoedd o drais ers disodli Mohammed Morsi, gyda’r awdurdodau yn rhoi’r bai ar wrthryfelwyr Islamaidd.