William Roache
Fe fydd yr actor Coronation Street William Roache yn sefyll ei brawf heddiw ar gyhuddiad o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn pump o ferched.
Cafodd Roache, 81 oed, ei arestio yn ei gartref yn Wilmslow, Sir Gaer ym mis Mai’r llynedd a’i gyhuddo’n ddiweddarach o ddau achos o dreisio merch 15 oed yn Sir Gaerhirfryn yn 1967.
Fis yn ddiweddarach cafod ei gyhuddo o bum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar bedair merch rhwng 11 a 16 oed, yr honnir iddyn nhw gael eu cyflawni yn ardal Manceinion rhwng 1965 a 1968.
Mae William Roache wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau.
Nid yw’r actor wedi ymddangos yn y gyfres sebon tra bod y broses gyfreithiol yn parhau.
Mae disgwyl i’r achos yn Llys y Goron Preston barhau am fis.